Neidio i'r cynnwys

Pam ymuno â ni

Pam ymuno â ni

Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn cael effaith gadarnhaol a hirdymor ar ffyniant Cymru.  Mae'r hyn rydym yn ei wneud yn effeithio ar bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru.

Fel un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru, tra bydd eich gyrfa yn cael dechreuad gwych, byddwch hefyd yn rhan o dîm ac yn defnyddio eich sgiliau i'n helpu i gyflawni amrywiaeth eang o brosiectau allweddol – prosiectau a fydd yn llywio rhwydwaith trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. 

Felly, tra byddwch yn dysgu sgiliau newydd, yn tyfu eich arbenigedd ac yn ennill profiad gwych, byddwch hefyd yn gallu gweld effaith yr hyn rydych yn ei wneud pob dydd.

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd ein diwylliant ac rydym yn meithrin tîm amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu er mwyn ein helpu i gyflawni mwy ar gyfer pobl, busnesau a chymunedau Cymru.

Byddwn hefyd yn rhoi'r adnoddau i chi sydd eu hangen arnoch i lwyddo, gan gynnwys mentoriaid, lleoliadau strwythuredig ac adnoddau academaidd yn ogystal â phecyn buddiannau gwych.

Felly, nid yn unig y byddwch yn creu llawer o gysylltiadau, byddwch hefyd yn cael profiad dysgu integredig, cefnogaeth i ennill statws proffesiynol yn eich dewis faes yn ogystal â chyflog dechreuol da, 28 diwrnod o wyliau, aelodaeth campfa a gostyngiadau manwerthu.

Ymunwch â ni a helpwch i feithrin Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.

Gweler ein pecyn buddiannau llawn yma.

Cwrdd a’n Graddedigion

Abbie
Cynllun dadansoddi risg
Prifysgol Caerdydd
Gradd mewn Mathemateg Ariannol (gyda Blwyddyn Lleoliad Proffesiynol)
 

Mae gen i ddiddordeb erioed yn y ffordd y gall mathemateg ragweld digwyddiadau yn y dyfodol a mesur risgiau. Felly roedd y cynllun hwn yn gweddu i’r dim. Roeddwn yn teimlo’n gyffrous iawn hefyd am y syniad y bydd TrC yn fy helpu i ddod yn arweinydd yn y dyfodol. Bydd yn rhoi rhywbeth arall i mi weithio tuag ato a'i gyflawni – rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr her! A diolch i weithio hyblyg, rwy'n gwybod y gallaf ddatblygu fy ngyrfa a chael cyfle i fynd i’r traeth gyda fy nau gi. Dyma'r gorau o'r ddau fyd.

Ali
Cynllun cyllid
Prifysgol Caerdydd
Gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid

Un o'r pethau pwysicaf am TrC yw'r diwylliant. Cewch fod yn chi'ch hun! Dyna beth mae TrC eisiau ei weld. Mae'n ymwneud â chael llawer o wahanol bobl sy'n dod â llawer o safbwyntiau gwahanol. Pan fyddwch chi'n dechrau'r broses ymgeisio, meddyliwch sut y gallwch chi wneud eich marc a sut rydych chi'n unigryw. Mae hynny'n bwysig iawn. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau. Rydw i wedi cael cymaint o gefnogaeth drwy gydol y broses – mae pawb yn gyfeillgar iawn ac yn fwy na pharod i helpu. Felly cofiwch ofyn!

Craig
Cynllun dadansoddi risg
Prifysgol Glasgow Caledonian,
Gradd mewn Rheoli Risg

Roeddwn am weithio ar brosiectau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fusnesau, cymunedau a phobl Cymru. Cynigiodd TrC hynny i gyd, yn ogystal â'r cyfle i ddefnyddio fy ngradd mewn Rheoli Risg. Dydw i ddim wedi dechrau eto, ond mae'r broses gynefino wedi bod yn anhygoel. Rydw i'n teimlo fy mod i wedi cael croeso o'r cychwyn cyntaf. Rydych chi’n cael y cyfle i gwrdd â'r graddedigion eraill sy'n ymuno hefyd, felly rydw i eisoes yn adnabod rhai o'r bobl y byddaf yn gweithio gyda nhw. Mae'n ddechrau gwych hyd yn hyn!  

Liam
Cynllun Peirianneg 
Prifysgol De Cymru
Gradd Meistr mewn Peirianneg Sifil (MEng)

Rwy'n hoffi'r modd y mae'r cynllun mor gynhwysfawr. Rydych chi’n cael cyfle i weithio ar draws gwahanol feysydd yn y sefydliad, gan ddatblygu’ch sgiliau a derbyn hyfforddiant wrth wneud hynny. Er fy mod wedi adleoli ar gyfer fy ngradd ac ehangu fy ngorwelion, roeddwn i’n dal i fod braidd yn betrusgar wrth wneud cais. Yn ffodus, fe wnaeth pawb yn TrC leddfu fy mhryderon a thawelu fy meddwl. Felly gyda'r lefel honno o gefnogaeth (yn ogystal â bagiau te a Chacennau Jaffa), rwy'n teimlo'n barod i wynebu her newydd! 

Tom
Cynllun Peirianneg 
UWE Bryste
Gradd mewn Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol

Rwy'n hoffi bod yn rhan o dîm, felly roeddwn i wrth fy modd â natur gydweithredol TrC. Rwy'n chwarae rygbi i dîm yng Nghaerdydd, felly rwy'n gwybod fy mod ar fy ngorau pan fyddaf yn gweithio gydag eraill. Y teimlad hwnnw o fod yn rhan o rywbeth mwy. Mae'n debyg mai dyna pam y cefais fy ysbrydoli gymaint gan y prosiectau yn TrC. Ac mae'r ffaith eu bod nhw’n ymdrechu i fod yn garbon niwtral yn y dyfodol yn fonws enfawr. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr sut maen nhw'n edrych i'r dyfodol yn gyson ac yn ceisio gwella.

Amdanom ni

Trafnidiaeth Cymru yw'r cwmni nid-er-elw sy'n datblygu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, cynaliadwy, fforddiadwy ac o ansawdd uchel.

Cliciwch ymai ddysgu mwy am ein gwaith cyffrous.